Barzhonegoù troet e kembraeg

Adfeilion Llydaw

—Ydw i’n llunio cerddi ? Ydw, ’rwy’n llunio cerddi—
Nid dyna fy ngwaith a chas gen i fy ngalw’n fardd.
Fy ngwaith erioed fu torri cwysi.
A siaradaf â’m creaduriaid fel tasen nhw’n bobl…
Bûm wrth fy modd bob amser gyda’m gwaith,
Fel y bydd y pysgodyn wrth ei fodd yn y dwr.

Ond mae yna bethau nad wyf yn eu hoffi
A rhaid i mi’u nodi :

’Dwy i ddim yn hoffi gweld meysydd fy Ngwlad
Yn mynd yn ôl yn anial ac yn lloches i’r creaduriaid gwyllt.
’Dwy ddim yn hoffi gweld adeiladau fy Ngwlad
Yn mynd i ddwylo’r Estron am ddyrnaid o bapur.
’Dwy ddim yn hoff o gwbl o weld cloddiau fy Ngwlad,
—Fframwaith a dull y Gwledydd Celtaidd—
Yn cael eu diwreiddio’n ddidostur, ddi-sens,
Na ieuenctid fy Ngwlad yn rhedeg i’r trefi
I werthu eu hegni a rhyddid eu bywyd
                      I’r gormeswr a’u gwawdia.
’Dwy ddim yn hoffi gweld hen bobl fy Ngwlad
Yn nhai-angau y trefi yn wylo dros eu llafur ofer,
Na mamau ifainc fy Ngwlad
Yn siarad iaith y gormeswr â’u plantos.
Trosedd yw torri’r Gadwyn
Trosedd yw llygru’r Llwyth,
A neb yn codi’i lais yn erbyn,
Neb! Neu bron iawn !

Dyna pam y lluniaf benillion… Nid dyna fy ngwaith…
I guddio ynddynt fy ngalar
I guddio ynddynt, fel mewn blwch,
Berlau fy nagrau… Ac yna,
Ble mae rhoi’r hedyn olaf
On ’d yng ngardd y Bardd ?

« Dismantroù Breizh », troet e kembraeg gant Rita Williams

 

Murmur

Gwrando ar bethau a wnaf
Yn hytrach nag ar bobl,
Swn y tân yn hisian
Y berth yn ubain
Dan y gwynt dolefus
Dwr yr afon yn llifo
A’r llifddor yn chwyrnu.
Ar draws eu murmur fe glywaf
Yn dod, megis atsain
0 bwll y canrifoedd,
Leisiau fy nghyndeidiau.

« Boud », troet e kembraeg gant Rita Williams

 

Ail Blentyndod

i Ivona Martin

Ym melin amser bûm yn malu
Carpiau fy ieuenctid
Holl racs fy harddwch
Clytiau fy mreuddwyd.
Mympwyon, breuddwydion,
Poenau a cholledion
Fe’u mwydais i gyd
 chwys a dagrau
A phobi’r toesyn
Yng ngwres tanbaid fy nghalon
Gwneud dalennau ohonynt
A’u smwddio i’w gloywi
 haearn f’ewyllys
Ac arnynt sgrifennaf
 lliwiau f’atgofion
Ffantasïau gorffwyll
Fy ail blentyndod
Yn iaith rhyfeddol fy hil.

« Eil Bugaleaj », troet e kembraeg gant Rita Williams

 

Fy ngherddi

Felly ysgrifennaf wrth olau fy lamp
Linellau anghytbwys, gwag
Â’r pin bach hwn yn crynu yn fy llaw flinedig
Felly ysgrifennaf liw nos ar gefn amlenni
Gerddi dibwys: ffrwcs
Na cheir ynddynt namyn blodau gwyllt…
A briwsionyn o gariad,
Oherwydd gwnaf hyn oll er mwyn y rhai a garaf.

Ysgrifennaf, er hynny, gerddi eraill
Nid wrth olau’r lamp.
Ond wrth danbeidrwydd yr Haul
Nid ar gefn amlenni
Ond ar frest noeth yr Un a garaf,
Ar groen noeth y Wlad a garaf.
Nid â phìn yr ysgrifennaf hwy
Ond ag offer dur…
—Peidier â meddwl am waywffon neu gleddyf,
Offer heddwch ac ar gyfer cylchdroi’r cnydau yw f’offer i.

Nid ysgrifennaf linellau deuddeg corfan
Gan gyfrif ar fy mysedd,
Ond rhai deuddeg ugain troedfedd… a mwy.
Ysgrifennaf fy llinellau wrth yr ystod
 dur miniog fy mhladur yng ngwallt melyn fy Ngwlad
Mae’r Haul yn eu troi’n gerddi persawrus
Y mae fy muchod yn cnoi cil arnynt imi ar nosweithiau o aeaf.

Ysgrifennaf fy ngherddi â swch f’aradr
Ar gnawd byw Llydaw fy Ngwlad, rych ar ôl rhych
—Ynddynt cuddiaf ronynnau o aur—
Mae’r gwanwyn yn eu troi’n gerddi
Moroedd o emrallt yn donnau yn yr awel.
Mae’r haf yn eu troi ’n llynnoedd heirdd o dywysennau
Mae Gwynt y Cynhaeaf yn rhoi alaw iddynt
A dwndwr y peiriant dyrnu sy’n eu canu imi.
Ar ddyddiau tesog yr wythfed mis
Ar ddyddiau poen a llwch a chwys
Fy ngherddi santaidd a… dirmygedig

« Barzhonegoù-noz—Barzhonegoù-deiz » («Va barzhonegoù »), troet gant Rhisiart Hincks